King Vidor
Gwedd
King Vidor | |
---|---|
Llun cyhoeddusrwydd o King Vidor ar gyfer stiwdio Metro-Goldwyn-Mayer (1925). | |
Ganwyd | 8 Chwefror 1894 Galveston |
Bu farw | 1 Tachwedd 1982 o clefyd cardiofasgwlar Paso Robles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, llenor, undebwr llafur, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Big Parade, The Crowd, Hallelujah!, The Champ, Our Daily Bread, Stella Dallas, The Citadel, Northwest Passage, Duel in The Sun, Beyond The Forest, The Fountainhead, Ruby Gentry, Man Without a Star, War and Peace |
Plaid Wleidyddol | California Republican Party |
Priod | Florence Vidor, Eleanor Boardman |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Golden Plate Award, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd King Wallis Vidor (8 Chwefror 1894 – 1 Tachwedd 1982).[1]
Ganed ef yn Galveston, Texas, Unol Daleithiau America, i deulu o dras Hwngaraidd.
Cyfarwyddodd Vidor nifer o ffilmiau o fathau gwahanol, gan gynnwys The Big Parade (1925) am y Rhyfel Byd Cyntaf, y sioe gerdd Hallelujah (1929), The Champ (1931), stori am baffiwr alcoholig, addasiad o'r nofel Stella Dallas (1937) gan Olive Higgins Prouty, ac addasiad o'r nofel The Citadel (1938) gan A. J. Cronin.
Ymddeolodd o wneud ffilmiau ym 1959. Derbyniodd wobr er anrhydedd yn seremoni wobrwyo'r Academi ym 1979, i gydnabod ei yrfa hir ym myd y sinema. Bu farw King Vidor yn Paso Robles, Califfornia, yn 88 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) King Vidor. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.